Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi argraffiad newydd sbon o gwrs poblogaidd i ddysgwyr Cymraeg

Mae’r Lolfa wedi cyhoeddi argraffiad newydd o’r cwrs poblogaidd i ddysgwyr Cymraeg, Welcome to Welsh.  Wedi’i ysgrifennu gan Heini Gruffudd, mae cynnwys yr argraffiad newydd wedi’i ddiweddaru a’i ail ddylunio er mwyn ei wneud yn addas i ddysgwyr heddiw.

Mae’r adargraffiad hwn yn cynnwys nodiadau gramadeg gwerthfawr, ymarferion defnyddiol, sgyrsiau cartŵn a geiriadur cyffredinol ar gyfer dysgwyr. 

“Mae pedwardeg o flynyddoedd wedi hedfan heibio! Bydden i byth wedi meddwl yn 1984 y byddai’r llyfr mor boblogaidd. Roedd angen diweddaru’r gramadeg, y storïau a’r sgyrsiau, ac mae’r hiwmor wedi newid. Mae llwyddiant y deunydd ar gyfer dysgwyr yn dangos bod yna ddymuniad i siarad Cymraeg sydd yn parhau i dyfu. Rwy’n gobeithio bydd y fersiwn newydd yma ar gael ymhell ar ôl i fi fynd!” meddai’r awdur Heini Gruffudd.

Cyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1984, a gwerthwyd dros 70,000 copi o’r fersiwn wreiddiol. Meddai Carolyn Hodges, Pennaeth Cyhoeddi Saesneg Y Lolfa sydd hefyd wedi bod yn gyfrifol am greu llyfrau cyrsiau iaith gydag Oxford University Press: “Mae’r fersiwn wreiddiol yn glasur ac wedi helpu degau o filoedd o ddysgwyr i gymryd y camau cyntaf i ddysgu Cymraeg. Mae’r fersiwn newydd yn adeiladu ar y llwyddiant yma, gyda chynnwys cyfoes, gyda Chymraeg fyddwch yn clywed ar strydoedd Cymru, a dyluniad ffres a fydd yn apelio at genhedlaeth newydd o ddysgwyr!”

Mae’r gyfrol yn ddelfrydol ar gyfer dysgu ar eich pen eich hun, Mae’n cynnwys 16 uned a chartwnau gwych gan y dylunydd Cymraeg, Osian Roberts, sy’n cyflwyno strwythur brawddegau a phwyntiau gramadegol. Mae yna hefyd eiriadur, a ffeiliau sain MP3 am ddim i gyd-fynd â’r gwersi.