Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Creu cyfres a chymeriad newydd i hybu iechyd meddwl plant Cymru

Nod cyfres newydd a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon yw gwella iechyd meddwl plant Cymru, yn ogystal â’u sgiliau llythrennedd. Cyfres o bum llyfr yw Twm y Llew, gyda phob un yn canolbwyntio ar gamau gwahanol o’r model Pum Ffordd at Les y Sefydliad Economeg Newydd (NEF), sef Cysylltu, Dal ati i ddysgu, Bod yn fywiog, Bod yn sylwgar a Rhoi.

Dywedodd John Likeman, awdur y llyfrau, iddo gael ei ysbrydoli i greu cyfres am lew gan y gêm ‘Llewod yn Cysgu’ a oedd yn ei chwarae yn blentyn. Ychwanegodd:

“Roeddwn yn arfer edrych ymlaen at yr ennyd o dawelwch a heddwch yna bob wythnos. Wedi ugain mlynedd fel athro es ati i ddatblygu meddalwedd a systemau biometrig gyda chwmni Raven Technologies i alluogi plant pryderus i ddarganfod heddwch a thawelwch meddwl, a chreu’r llyfrau oedd y cam naturiol nesaf. Cafodd y llyfrau eu treialu yn drylwyr mewn ysgolion yng Ngheredigion, Abertawe a Sir Gâr. Llwyddai’r disgyblion i uniaethu â’r cymeriadau, ac roedd y straeon yn ysgogi trafodaethau am eu hiechyd meddwl eu hunain.”

Mae’r gyfres wedi derbyn canmoliaeth gan nifer o addysgwyr, gan gynnwys Dewi Roberts, sy’n ddarlithydd yn yr Adran Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Bangor, ac yn Ymgynghorydd Addysg Annibynnol:

“Os rhoddir y cyfle i blant ifanc dreulio amser ym myd arbennig a chymhellol Twm y Llew a’i ffrindiau, cânt gyfle i ddod i ddeall rhai pethau sy’n wirioneddol bwysig mewn bywyd a chael cipolwg cyfoethog ar y Pum Ffordd at Les, a allai fod yn sylfaen gadarn iddynt am weddill eu hoes. Heb os nac oni bai, mae’r llyfrau hyn yn gwneud argraff.”

Mae’r gyfres, sydd wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru a sêl bendith y NEF, yn ffrwyth cydweithio rhwng tri chwmni o Gymru sef Raven Technologies, Y Lolfa a Cloth Cat. Gobaith y cwmnïau yw y bydd y prosiect yn arwain at greu ffilmiau wedi eu hanimeiddio yn ogystal â chyhoeddi rhagor o lyfrau. Dywedodd Jon Rennie, Rheolwr Gyfarwyddwr Cloth Cat yng Nghaerdydd, sef y cwmni a fu’n darlunio’r gyfres:

“Bydd y gyfres, sy’n cyfuno adrodd stori ac addysgu, o gymorth i blant yn yr ysgol ac yn eu cartrefi, a bydd yn rhoi help llaw i rieni wrth drin y pynciau pwysig yma.”

Ychwanegodd Garmon Gruffudd o’r Lolfa:

“Mae’n fraint cael cyhoeddi llyfrau bywiog, dengar a hollol wreiddiol fel hyn. Bydd neges graidd y llyfrau er budd i bawb fydd yn eu darllen, boed yn blant neu yn rhieni.”

Mae’r gyfres ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg gyda chod QR ar bob llyfr sy’n arwain at lyfrau sain ar eu gwefan. Mae’r straeon yn cael eu darllen gan Gwion Bowen, bachgen 12 oed o Sir Benfro.