Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Codi'r llen ar Hiwmor Tri Chardi

Mae cyfrol newydd, Hiwmor Tri Chardi Llengar, yn codi’r llen ar dri Chardi amlwg oedd yn ffrindiau pennaf – William Morgan (Moc) Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi Edwards.

Mae’r gyfrol wedi ei hysgrifennu gan un o haneswyr amlycaf Cymru, Geraint H. Jenkins, sydd hefyd yn hanu o Geredigion.

Yn ôl Geraint Jenkins, awdur y gyfrol, “Yn ogystal â’u hanes, roeddwn eisiau dangos yn y gyfrol hon yr hiwmor unigryw sydd i’w chael yng Ngheredigion. Roedd y tri yn hen law ar gosi’r dychymyg, tynnu coes a pheri i bobl chwerthin yn braf.

“Ac fel un oedd yn nabod y tri yn bersonol, rwyf wedi cynnwys amryw o straeon difyr ac enghreifftiau o’u hiwmor unigryw.”

Mae yna amryw o bethau yn gyffredin rhwng y tri – astudiodd y tri yn y coleg ger y lli, bu’r tri yn dysgu Cymraeg yng nghymoedd Sir Forgannwg ac fe gafodd y tri yrfa lwyddiannus. Moc oedd cyfieithydd cyntaf y Swyddfa Gymreig, Tegwyn oedd un o olygyddion Geiriadur yr Academi a Hywel oedd athro cadeiriol y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r gyfrol wedi ei rhannu yn dair rhan, gan gychwyn gyda Moc Rogers.

Meddai Geraint, “Roedd Moc ar ei orau yn parablu’n ddifyr am ddygnwch, cymwynasgarwch a chynhesrwydd teuluoedd Ffair-rhos. Byrlymai wrth adrodd hanesion trwstan ei gyd-werinwyr ac yn y gyfrol hon, rwyf wedi ceisio rhoi rhai o straeon hynny ar gof a chadw.”

Yr ail i gael sylw yn y gyfrol ydy Tegwyn Jones, gafodd ei fagu ym Mhen-y-bont Rhydybeddau, yr unig un arhosodd yn ei ardal enedigol. Mae’n cael ei ddisgrifio yn y gyfrol fel ‘un o hyrwyddwyr pennaf yr awen ysgafn’.

Ychwanegodd Geraint, “Roedd Tegwyn wrth ei fodd gyda chymeriadau lliwgar a digrifwch bras, yn ogystal â iaith gyhyrol a hiwmor gwerinol ac agos-atoch. Dw i wedi cynnwys enghreifftiau o’r diddordeb hwn yn y gyfrol, yn ogystal â rhai o’i ‘gerddi dwli’ megis Llan-twdl-dw.”

Yn cloi y gyfrol mae Hywel Teifi Edwards, oedd yn enedigol o Landdewi Aber-arth ger Aberaeron.

Yn ôl Geraint, “Enigma o Gardi oedd Hywel Teifi, yn ysgolhaig a chyfathrebwr na welwyd ei debyg o’r blaen. Roedd ganddo lais fel taran a gallai gyfuno hiwmor direidus â siarad plaen, hallt.

“Yn y gyfrol, rwy’n rhannu rhai o straeon ei gyfoedion am ei gyfnod yn y coleg ger y lli a sut y ceisiai blesio ei wncwl, Gwenallt. Cawn hefyd ei hanes yn poeni dim am dynnu blewyn o drwyn rhai o hoelion wyth Cymru, gan gynnwys Saunders Lewis.

“Mae gen i hefyd hanesion yn y gyfrol am ei amharodrwydd i weld unrhyw un yn cywiro neu olygu ei waith. Mae gen i brofiad personol o hynny, ac un tro perswadiodd un o’i gyd-weithwyr i gyfansoddi cerdd ddychan yn fy meirniadu am ffidlan gyda’i waith! 

“Creadur cymhleth a pharadocsaidd oedd Hywel ar lawer ystyr. Gallai fod yn garlamus a sentimental; yn ystyfnig ac yn gymwynasgar; yn ddeifiol ac yn galon-dyner; yn watwarus ac yn ganmoliaethus. Fel y dywedodd Moc am ei gyfaill, ‘rhyw galeidosgop fuodd o erioed. Symudwch y bocs ewinfedd a fydd dim dal beth welwch chi na beth glywch chi.”