Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Antur newydd yng nghyfres boblogaidd Casia Wiliam!

Yr wythnos hon, mae Sara Mai yn ôl gydag antur newydd sbon. Mae Sara Mai ac Antur y Fferm (Y Lolfa) gan Casia Wiliam, yn ddilyniant i Sw Sara Mai a Sara Mai a Lleidr y Neidr. Mae’r ddwy nofel gyntaf wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og (2021 a 2022), a bu i’r nofel gyntaf gipio’r Wobr yn 2021.

Y tro yma, mae Sara Mai yn mynd ar drip diwedd tymor i Fferm Tyddyn Gwyn, ac yn aros dros nos heb Mam a Dad am y tro cyntaf. Sut fydd Sara Mai a’i ffrindiau yn ymdopi, a pha ddireidi ddaw yng nghwmni Gomer yr afr a Tomi’r Tarw?

Daeth yr ysbrydoliaeth am y nofel yn dilyn ymweliadau’r awdur ag ysgolion:

“Es i ati i ysgrifennu’r stori ar ôl ymweld â llwyth o ysgolion Gwynedd a chael modd i fyw yng nghwmni plant y wlad. Dwi wedi benthyg ambell un o’u syniadau (gyda chaniatâd wrth gwrs!) ac yn mawr obeithio y bydd y stori hon yn plesio!”

Mae’r gyfres yn plethu ffraethineb a dwli (mae yna jiráff sydd yn ofn uchder yn y nofel gyntaf a gafr fach ddireidus yn y nofel newydd) gyda negeseuon pwysig.

Meddai Casia:

“Rwy’n gobeithio bydd cyfle i ymweld ag ysgolion eto gyda’r nofel hon, ac efallai ymweld â fferm i gwrdd â’r anifeiliaid hefyd!”

Dywedodd Bethan Gwanas am Sw Sara Mai: “Mae ’na hiwmor hyfryd yma, a llwyth o ddigwyddiadau … Clincar!”. Canmoliaeth hefyd a gafwyd gan Morgan Dafydd yn ei flog Sôn am LyfrauMae'r iaith naturiol, hawdd i'w darllen yn golygu bod llyfrau Sara Mai yn berffaith ar gyfer plant 7-11 oed, a byddwn i’n argymell i athrawon ystyried buddsoddi ynddynt.”

Cafodd Sw Sara Mai glod hefyd am gyflwyno prif gymeriad hil gymysg ac am drafod hiliaeth.