Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Antur newydd i Griw'r Coed a phecyn adnoddau i athrawon

Mae’r archarwyr Criw’r Coed yn ôl gydag antur newydd. Criw’r Coed a’r Draenogod ydi’r ail lyfr yn y gyfres gan Carys Glyn a Ruth Jên. Mae’r llyfr yn dysgu plant Cymru sut i helpu draenogod i grwydro’n rhydd eto. Mae’r awdures a’r artist yn gobeithio bydd y gyfres yn agor llygaid plant at ryfeddodau byd natur a’u helpu i ddeall bod ganddynt y gallu i wneud gwahaniaeth.

Meddai’r awdures Carys Glyn, sydd hefyd yn athrawes ysgol gynradd:

“Ar ôl cael ymateb mor galonogol i’r llyfr cyntaf, a’r pecyn adnoddau creais i gyd-fynd gyda’r llyfr (gyda dros 300 o athrawon yn ymateb!) bydd yna becyn o adnoddau ar gael eto i gyd-fynd gyda’r llyfr yma. Bydd syniadau ar gyfer cynlluniau ym mhob maes Cwricwlwm, caneuon ac ambell i fideo bonws ohona’ i yn trafod y llyfr.”

Cafodd y llyfr cyntaf, Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll, ganmoliaeth am y lluniau llachar arbennig gan Ruth Jên a’r stori gyda neges. Meddai Bethan Gwanas:

“Dwi wedi gwirioni efo’r llyfr yma!... Mi fydd plant, rhieni ac athrawon dros Gymru’n mwynhau pori dros y lluniau a’r stori – a chreu gweithgareddau wedi eu hysbrydoli gan y gwenyn, natur, bob dim.”

Meddai Carys Glyn:

“Ar gyfer yr ail antur roeddwn i’n gwybod fy mod am dynnu sylw plant at anifail arall cyfarwydd, mewn perygl. Roeddwn yn ffeindio hi’n anodd penderfynu pa anifail i ddewis. Yna, daeth yr ateb i fi – yn llythrennol! Wrth iddi dywyllu un noson wrth wersylla, rhoais fy llaw ar y llawr a theimlo rhywbeth pigog – draenog bach! Rwy’n gobeithio bydd y llyfr yn ysgogi plant i ddysgu mwy am ddraenogod ac i fynd ati i gyfrannu at briffordd bigog sydd yn galluogi draenogod i deithio o ardd i ardd.”

“Un o’r pethau mwyaf bendigedig sydd wedi dod o ysgrifennu’r llyfr cyntaf yw ymweld ag ysgolion a gweld y plant yn dysgu am wenyn yn dilyn darllen y llyfr. Rwy wedi gweld ardaloedd chwarae Criw’r Coed, animeiddiad am wenyn a hyd yn oed murlun ‘Cofiwch y Gwenyn’ [gweler llun isod] – teimlad anhygoel!”

Mae cyfres Criw’r Coed yn ail-ddychmygu anifeiliaid hynaf y byd, o chwedl Culhwch ac Olwen, fel archarwyr sydd yn helpu anifeiliaid eraill ddatrys problemau’r byd naturiol o’u cwmpas. Trwy ddefnyddio eu doniau anhygoel mae’r pum cymeriad unigryw – G.Hw, Carwww, Eryr, Chwim a Mal yn gweithio gyda'i gilydd i achub y dydd ac i achub y blaned!

Bydd y linc i'r adnoddau ar dudalen Facebook 'Athrawon Cynradd Twinkl'.