Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Angerdd a herfeiddiad Streic y Glowyr yn cael ei rannu mewn llyfr ffotograffiaeth newydd i nodi 40 mlynedd

Bydd 6 Mawrth 2024 yn nodi 40 mlynedd ers dechrau Streic y Glowyr, a’r gwrthdaro a rwygodd ein cymunedau Cymreig. I nodi’r cyfnod hwn, cyhoeddir llyfr o ffotograffau a dynnwyd gan y wasg cyn, yn ystod, ac wedi’r gweithredu diwydiannol. Portreadir yn y ffotograffau herfeiddiad, angerdd ac undod y glowyr, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Mae Coal and Community in Wales – Images of the Miners’ Strike: before, during and after wedi’i greu gan y newyddiadurwr arobryn, Amanda Powell, a’r ffotograffydd llawrydd, Richard Williams. Bu’r cwpl priod yn adrodd hanes Streic y Glowyr yn ne Cymru yn ystod y 1980au.

Dywedodd Richard Williams, cyn-ffotograffydd a golygydd lluniau y Western Mail: “Roeddwn wedi sylweddoli ers fy arddegau fy mod yn dyst i ddirywiad y diwydiant mwyngloddio glo o’m cwmpas, ac fe es ati i gofnodi’r dirywiad blynyddoedd cyn i streic 1984-85 ddechrau. Fe ddilynais y streic hyd at y diwedd, ac yna tynnu lluniau o’r hyn a ddigwyddodd wrth i’r glowyr fynd yn ôl i’w gwaith, ac wedi hynny, wrth i’r pyllau glo oedd yn weddill gau. 

Fe ymledodd Streic y Glowyr ar draws meysydd glo Prydain o’r 6ed o Fawrth 1984, ac roedd yn ymgais i atal y pyllau glo rhag cau.

Cafwyd cefnogaeth frwd ac angerddol yn ne Cymru i’r streic a arweiniwyd gan Arthur Scargill, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM), yn erbyn y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB), a oedd yn asiantaeth i’r llywodraeth.

Mae Coal and Community in Wales - Images of the Miners’ Strike: before, during and after yn darlunio diwedd oes y diwydiant glo yn ne Cymru ac yn cynnwys profiadau'r bobl sy’n ymddangos yn ffotograffau gwreiddiol Richard Williams. Darganfu Richard ac Amanda fod pawb y bu i’r ddau siarad â nhw yn parhau i deimlo'r un mor gryf heddiw ag yr oeddent 40 mlynedd yn ôl.

Mae rhai o’r storïau mwyaf rhyfeddol yn y llyfr gan löwr a oedd ar streic, a gwelwn ef yn ceisio atal bws a oedd yn cludo’r rhai a oedd wedi torri’r streic, drwy sefyll o’i flaen [llun yn y pecyn i’r wasg]. Aeth y glöwr, a oedd hefyd ar bwyllgor yr NUM, i’r llys, wedi’i gyhuddo gyda phicedwyr eraill, o dorri’r heddwch. Gorchmynnodd y llys iddo dalu £150 na allai fforddio, ac yn y llyfr mae’n sôn yn deimladwy am y caledi a’r galar aruthrol a wynebodd sawl teulu pan gaewyd ei bwll glo ar ddiwedd 1985.

Portreadir sawl gwrthdaro nodedig arall yn y llyfr gan gynnwys y gwrthdro rhwng y glowyr a’r heddlu yng ngweithfeydd haearn Port Talbot, lleoliad a nodwyd gan swyddogion yr NUM fel safle hollbwysig ar gyfer picedu eilradd [gweler y sampl o bennod].

Roedd Amanda Powell, sy’n chwaer, yn ferch ac yn wyres i gyn-lowyr Cymru, yn ohebydd ifanc adeg y streic. Meddai, “Doedd y mwyafrif o bobl y gwnaethom ni eu cyfweld ar gyfer y llyfr erioed wedi cael cyfle i adrodd eu storïau fel hyn o’r blaen, ac fe wnaethant gynnig mewnwelediadau ac emosiynau newydd a dwfn.

Yr hyn a ddywedodd pob un o’r cyn-lowyr wrthyf oedd na wnaethant erioed wedyn ddod o hyd i’r un cyfeillgarwch a oedd yn bodoli yn ystod y blynyddoedd a fuon nhw yn y pyllau glo.”

Dywedodd Richard Williams: “Roedd Streic y Glowyr yn stori newyddion anferthol a oedd yn digwydd o flaen eich llygaid, ond hefyd yn gyfnod mor drist gan nad oeddwn erioed wedi gweld y fath ddicter yn cael ei anelu at lywodraeth o’r blaen. Roedd e wir yn teimlo fel bod y wlad yn cael ei rhwygo’n ddarnau.”

Pwysleisir gan yr awduron bwysigrwydd helpu pobl ifanc i ddod yn ymwybodol o frwydrau’r gorffennol a’r ffordd y daeth y cymunedau glofaol ynghyd er mwyn helpu ei gilydd.

Meddai Amanda Powell: “Mae pob blwyddyn nodedig wedi dod â sylw a gwybodaeth newydd, ac rwy’n meddwl bod hyn wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig oedd y cyfnod hwn. Newidiodd cymunedau glofaol am byth, ac yn gyffredinol, doedd y newidiadau hyn ddim yn rhai cadarnhaol.”

“Rydym yn ddyledus i’r bobl a atebodd ein cwestiynau a rhannu eu meddyliau a’u hatgofion, er mwyn ein helpu yn y broses fanwl o greu rhywbeth  a fydd gobeithio yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i stori King Coal.”

Yn ei ragymadrodd i’r llyfr, mae’r Gwir Anrh. Carwyn Jones, cyn Brif Weinidog Cymru, yn ysgrifennu am ei arwyddocâd. Dywed “mae’n cynnig hanes gweledol ein cymunedau glofaol yn ystod streic fawr 1984-85. Mae Richard wedi dal hanfod yr amser hwnnw a bydd ei waith yn dysgu cenedlaethau i ddod am y diwydiant mawreddog ac am y cyfnod o galedi a gwrthdaro a adawodd ei ôl ar gynifer.”