Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Angen 'mwy o lyfrau Cymraeg i bobl ifanc' meddai awdur newydd ifanc

Mae 'angen mwy o lyfrau Cymraeg i bobl ifanc' – dyma yw sylwadau yr awdur newydd, Awen Schiavone, sydd yn cyhoeddi ei nofel gyntaf yr wythnos hon.

Nofel antur wreiddiol Gymraeg ar gyfer yr arddegau yw Cipio'r Llyw gan Awen Schiavone ac fe'i cyhoeddir yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa. Mae'n cyflwyno stori am fôr-leidr o Gymru yn nechrau'r ddeunawfed ganrif - sef oes aur y môr-ladron Cymreig.

'Mae 'na angen mwy o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifainc, ac mae dirfawr angen cynyddu'r nifer o lyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg i'r gynulleidfa honno' meddai Awen Schiavone 'Mae cannoedd o lyfrau gwreiddiol i bobl ifainc yn cael eu cyhoeddi mewn ieithoedd eraill yn flynyddol. Mewn cymhariaeth, mae'r nifer yn Gymraeg yn ddychrynllyd o isel.'

'Mae'n bwysig hefyd cyhoeddi llyfrau gwreiddiol i blant a phobl ifainc sy'n trin a thrafod hanes Cymru a chymeriadau hanesyddol. Mae llawer o gwyno nad ydy plant a phobl ifainc Cymru yn gwybod digon am eu hanes a'u treftadaeth eu hunain' meddai Awen.

'Y gwir amdani yw bod ein hanes yn byrlymu ag unigolion, grwpiau o bobl, a digwyddiadau dirifedi sy'n wirioneddol ddiddorol a chyffrous. Does dim rheswm i'r rhain aros yn guddiedig mewn llyfrau llychlyd. Does dim rheswm dros beidio rhoi bywyd newydd i'r hanesion hyn.'

Yn y nofel dilynwn Hywel Dafydd ar ei daith anturus i lefydd peryglus ac i ynysoedd trofannol ar draws y byd, a chawn gwrdd â rhai o ddihirod pennaf y moroedd. Mae'r nofel yn darlunio creulondeb a chyffro bywyd ar y môr, yn ysbeilio llongau a chipio trysorau lu wrth chwarae gêm y môr-ladron.

Cyrhaeddodd y nofel rhestr fer cystadleuaeth T. Llew Jones ac mae ei ddylanwad ef yn gryf ar y nofel hon. Cafodd y nofel ei hysbrydoli gan draethawd ymchwil Awen ar waith T. Llew Jones.

'Mae môr-ladron i'w gweld yn fynych yn niwylliant poblogaidd ar draws y byd. Ond, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli mai Cymry oedd rhai o'r môr-ladron mwyaf llwyddiannus ac enwocaf erioed' meddai Awen, 'Mae enwau fel Edward 'Blackbeard' Teach, Captain Kidd, a Calico Jack yn wybyddus i lawer, ond o Gymru, cafwyd degau o fôr-ladron llwyddiannus ac enwog yn eu dydd. Yn eu mysg nhw mae Harri Morgan a Barti Ddu wrth gwrs, ac yn Cipio'r Llyw cawn glywed am anturiaethau cyfrwys Hywel Dafydd.'

'Yr hyn mae môr-ladron yn ei wneud ydy gwrthryfela, plygu a thorri rheolau. Wrth gwrs, yn draddodiadol, mae pobl ifainc yn cael eu gweld fel grŵp gwrthryfelgar hefyd ac efallai bydd rhai darllenwyr ifainc yn uniaethu â'r cymeriadau ymylol ag yw môr-ladron,' ychwanegodd Awen. 'Dwi'n credu bod angen magu hyder mewn meddwl annibynnol yn ein pobl ifainc. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod cythryblus yn wleidyddol, a dwi'n teimlo bod angen i'n pobl ifainc ddatblygu'r hyder i gwestiynu'r ffyrdd ry'n ni'n cael ein hannog i fyw, ac i fod yn barod i wrthryfela hefyd.'

Magwyd Awen ym Mhandy Tudur. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, bu'n gweithio fel athrawes Gymraeg a Daearyddiaeth, ac yna'n darlithio yng Ngwlad Pwyl. Enillodd MPhil mewn Llenyddiaeth Plant a gweithiodd ym maes dwyieithrwydd ac addysg oedolion. Treuliodd gyfnodau yn teithio – i India, De America a de-ddwyrain Asia yn bennaf, ac mae ganddi brofiadau anturus o hwylio rhwng Pen Llŷn a Phortiwgal.