Ail gyfrol hudol i’r Harry Potter Cymraeg – mae Cadi Goch yn ei hôl!
Mae Cadi Goch a’r Crochan Hud newydd ei rhyddhau gan wasg y Lolfa. Dyma’r ail nofel sy’n dilyn anturiaethau Cadi Goch a’i ffrindiau yn yr ysgol swynion yn Annwfn, Gwlad y Tylwyth Teg.
Mae Cadi yn dechrau amau bod cynllwyn ar droed i ddwyn crochan
hynafol sy’n cael ei arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a’i
ddefnyddio i greu byddin anorchfygol er mwyn gosod ei mam, y frenhines greulon,
ar orsedd Annwfn. Rywsut, mae’r dihiryn Shane Jarvis yn rhan o’r cynllwyn, ac
mae Cadi wedi addo i frawd Shane, Tom Jarvis, na fydd yn ei fradychu rhag ofn
ei fod yn cael ei yrru yn ôl i’r carchar. Felly mae hi am ddatrys y dirgelwch
gyda chymorth ei ffrindiau Mohammed a Tractor. Eto i gyd, dyn nhw ddim bob tro
yn siarad â’i gilydd am ryw reswm, ac mae Cadi Ddu fel petai’n ffrind mynwesol
â Heledd Bowen, hen elyn Cadi Goch.
Antur llawn hud a
lledrith a bwystfilod dychrynllyd sydd yma, ond mae hefyd yn stori am
gyfeillgarwch, cariad a galar. Mae hi
hefyd yn dangos bod teuluoedd yn gallu bod yn gymhleth, ond bod pobl, weithiau,
yn haeddu ail gyfle. Meddai’r awdur:
‘Dechreuais lunio
straeon am Cadi Goch rhyw bum mlynedd yn ôl i ddiddanu fy merch Manon, oedd yn
dwlu ar Hogwarts ac yn awyddus i ddarganfod bydoedd hud eraill. Mae’n well ganddi Stranger Things erbyn hyn, ond dw i’n dal i
ddarllen y straeon iddi hi cyn i neb arall.’
Mae’r awdur, Simon
Rodway, yn wreiddiol o’r Alban, ond erbyn hyn mae’n byw ym Mhenparcau,
Aberystwyth, gyda Shumita, Manon ac Idris, a Popi’r gath. Fel arfer, mae’n
ysgrifennu am yr ieithoedd Celtaidd, ond dyma ei ail nofel am Cadi Goch a’i ffrindiau.
Mae Cadi Goch
a’r Crochan Hud ar gael nawr (Y Lolfa, £7.99)