Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Addasu nofel boblogaidd Mared Lewis i ddysgwyr

Mae’r nofel boblogaidd i ddysgwyr Lefel Uwch, Fi, a Mr Huws, yn cael ei hail-gyhoeddi'r wythnos hon. Mae’r fersiwn newydd wedi’i addasu a’i safoni i fod yn rhan o gyfres Amdani, cyfres arbennig ar gyfer dysgwyr ar bob lefel.

Meddai Siân Esmor, golygydd i’r Lolfa ynghyd â thiwtor Cymraeg i Oedolion, sydd yn gyfrifol am addasu’r gyfrol:

“Rydw i wedi bod drwy’r nofel yn addasu’r eirfa a’r patrymau iaith i gyd-fynd â’r hyn sydd wedi ei ddysgu i oedolion ar gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.”

Elfen arall o gysoni’r gwaith i gyfres Amdani oedd cynnwys geirfa a phatrymau addas i’r lefel dan sylw ar waelod pob tudalen, gyda rhestr eirfa yng nghefn y llyfr.

“Roedd hon yn nofel lwyddiannus eisoes, ond fe gyhoeddwyd y nofel cyn bodolaeth cyfres Amdani, ac felly doedd yr iaith ddim o reidrwydd yn cyd-fynd â lefel benodol o ddysgu Cymraeg. Drwy ddod yn rhan o gyfres Amdani, mae dysgwyr lefel Uwch yn gwybod y byddan nhw’n medru darllen a deall y nofel gan ei bod hi wedi ei haddasu ar gyfer y lefel y maen nhw arni ar hyn o bryd,” meddai Siân Esmor.

Pan gyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol, yn ôl yn 2017, roedd yna fwlch amlwg yn y farchnad, gyda dysgwyr yn awchu am lyfrau addas i’w darllen a’u helpu ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Meddai Mared Lewis, sydd yn awdur a hefyd yn diwtor Cymraeg:

 

“Roedd y dewis i ddysgwyr yn gyfyng iawn, ac ysgrifennais Fi, a Mr Huws er mwyn rhoi nofel fodern iddynt a fyddai’n apelio at gynulleidfa ehangach na dysgwyr hefyd. Ers hynny mae’r sefyllfa wedi gwella gyda chyfres Amdani, sydd yn boblogaidd iawn ymysg y dysgwyr.”

Lansiwyd cyfres Amdani yn 2018, prosiect a welodd gweisg Cymru yn cydweithio gyda Chanolfan Cenedlaethol Dysgu Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru i ddatblygu a chyhoeddi cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig at gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Erbyn heddiw mae yna dros 40 o gyfrolau yn y gyfres.

Er bod cyfres Amdani eisoes yn boblogaidd ac wedi meithrin darllenwyr brwd, y gobaith ydy y bydd darllenwyr newydd hefyd yn mwynhau’r nofel ac yn ymddiried yn y gyfres fel arf i ddatblygu eu Cymraeg.