Dyma 60 o groeseiriau hwylus i'ch diddanu dros baned neu ddishgled. Does dim byd yma sy'n rhy anodd, ond eto i gyd mae 'na ddigon o her i'ch bachu. Mae blas Cymreig ar bob un o'r posau hyn, felly medrwch fesur eich geirfa a'ch gwybodaeth am Gymru mewn un llyfr bach handi! Dyma anrheg berffaith ar gyfer croeseirwyr Cymru, neu fel arall, rodd fach haeddiannol i chi'ch hun! Brodor o Bencader yw Doug Langley, Consuriwr y Croesair! Ers talwm mae Doug wedi bod wrthi'n ddiwyd yn llunio posau ar gyfer ei bapur bro, er difyrrwch ei gymuned leol. Nawr mae cyfle i bawb ledled Cymru ymuno yn yr hwyl a mwynhau pwslo dros y posau hyn.