Dyma hanes Dafydd Hywel o'r dechre'n deg. Mae'n ddarlun difyr o fywyd brith a gyrfa liwgar yr actor talentog o Ddyffryn Aman.
Mae'r cofiant ddiflewyn-ar-dafod hwn yn ei dweud hi fel mae DH yn ei gweld hi. Ma brenin Garnant 'ma . . .
'Dwi'n meddwl ambell i fore ei fod e'n edrych yn y drych ac yn cwmpo mas gyda'i adlewyrchiad ei hunan! Ar adegau dw i'n teimlo fel ei dagu fe, mae e'n stwbwrn ar y diawl. Mae e'n gwylltio rhai pobol, ond all neb fynd â'i ddawn anhygoel e oddi wrtho fe, na'r gred sydd ganddo fe yn y theatr yng Nghymru. DH – top man!' Grav
'Character, he screamed, character!That's what it's about! And what a passionate, funny, generous, and fundamentally decent character my friend DH is!' Gary Sweet
'Un o'r ffrindie mwya triw dwi erioed wedi'i gael. 'Swn i'n styc ar ben yr Wyddfa, DH fyswn i isio i'm hachub i!' Sue Roderick
'Mae e'n actor gwych ar y radio achos 'sneb yn gallu gweld mai ond 5' 3" yw e.' Dewi Pws