Cyfrol farddoniaeth gynnes a disglair o eiddo Euryn Ogwen Williams yw Tywod a Sglodion. Lluniwyd y cerddi gan brydydd ar-alw, chwedl yntau, dros gyfnod o ddeugain mlynedd, bron. Ceir yma gerddi o fawl, dychan a thristwch, ynghyd â mynegiant gonest a thwymgalon o'r emosiwn a ysgogir gan enedigaeth cenhedlaeth newydd i'r teulu. Wrth blethu'r cyfan gyda hiwmor bachog a golwg gellweirus ar rai o nodweddion ein hoes, mae Euryn wedi creu cyfrol sydd am aros yn y cof ymhell wedi'r darllen