Mae'r Pecyn Celf yn cynnwys:
*Copi o Mary Lloyd Jones: Enfys o Liwiau gan Carolyn Davies a Lynne Bebb. Dyma lyfr celf hyfryd sy'n defnyddio geiriau Mary Lloyd Jones ei hunan am ei bywyd ac am ei gwaith.
*Llyfr athrawon 16 tudalen gan yr athrawes ymgynghorol Carolyn Davies a'r artist Lynne Bebb.
*Taflenni gweithgareddau y gellir eu llungopio i'w defnyddio yn y dosbarth.
*4 cerdyn celf llawn lliw wedi'u lamineiddio i'w defnyddio yn y dosbarth. Dyma brintiadau o ansawdd uchel, i'w defnyddio gydag unigolion, grwpiau neu'r dosbarth cyfan. Maent yn hynod addas i'w harddangos hefyd.
*Cerddi a rhyddiaith gan Gillian Clarke sydd yn dangos gweledigaeth gyffelyb yr awdur a'r artist.
"Mae'r pecyn cywrain hwn yn cynnwys detholiad trawiadol a chyfoethog o waith un o arlunwyr blaenllaw Cymru; mi fydd yn ysbrydoliaeth i'r sawl sy'n ymddiddori ym myd celf. Mae'r gefnogaeth i athrawon yn cynnig dulliau gweithio a fydd yn galluogi dysgwyr ac athrawon i ymateb nid yn unig i waith Mary Lloyd Jones ond i iaith, tirlun a thraddodiadau Cymru." Yan James, ymgynghorydd addysg