Dyma hanes John Davies, Bwlch-llan, yn ei eiriau ei hun - dyn sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd, hanes a diwylliant Cymru ers dros hanner cnarif. Mae yma gofnod gwerthfawr o hanes Rhondda'r 1940au, bywyd cefn gwlad Ceredigion yn y 1950au a thwf cenedlaetholdeb a sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn y 1960au hyd at sefydlu'r Cynulliad. Cawn ddarllen am ei berthynas â myfyrwyr Pantycelyn yn ystod ei gyfnod fel Warden yno, ac am lafur blynyddoedd o waith ar gyfrolau megis "Hanes Cymru", "Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig" a "Cymru: 100 lle i'w gweld cyn marw".
Ond mae'r gyfrol yn dangos ochr arall i'r ffigwr cyhoeddus, yr hanesydd gwybodus a'r darlithydd craff. Bu'n rhaid iddo oresgyn rhagfarnau cymdeithasol a dygymod ag anawsterau yn ei fywyd personol. Ac eto, mae ffraethineb yn y straeon, yn enwedig yn hanes ei deithiau tramor i wledydd fel India a'r Unol Daleithiau, Ffrainc a'r Almaen. Dyma ddyn teulu annwyl, wedi gwirioni ar ei blant a'i wyrion, a dyn sydd wrth ei fodd yn yr ardd.