The Red Dragons: The Story of Welsh Football (hb)
Dyma stori datblygiad pêl-droed yng Nghymru. Dilynwch hanes y tîm cenedlaethol dros 135 mlynedd o frwydro i ddod â gogoniant i wlad sy'n dyheu am lwyddiant. Cawn ein hatgoffa o fuddugoliaethau a byddwn yn ysgwyd ein pennau wrth ddarllen am sawl anffawd gas. Cawn hanes clybiau Cymru a rhai o'n chwaraewyr enwocaf o safbwynt Cymreig, a chawn ein hatgoffa o bwysigrwydd y gêm.