Dyma stori tad a mab, Elfed a Brian Davies, y ddau ohonynt wedi eu magu mewn pentrefi bach yng ngogledd Ceredigion, Salem a Phenrhyn-coch. Mae'r ddau wedi byw bywydau gwahanol iawn: bu Elfed yn ymladd yn yr Aifft, Libya a'r Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Pan ddychwelodd i Salem ym 1945 roedd y lle a'i fyd wedi newid yn gyfangwbl.
Gadawodd Brian Benrhyn-coch am reswm gwahanol, i gael addysg uwch and fe deithiodd cryn dipyn yn ei amser hamdden. Ond, fel ei dad, roedd yr hiraeth am yr ardal ar ei feddwl, hefyd.
Dyma stori Salem a'r ardal o'i gwmpas yng ngogledd Ceredigion trwy lygaid dwy genhedlaeth. Maen nhw'n dweud sut mae'n byd wedi newid...