John Meirion Morris yw cerflunydd cyfoes amlycaf Cymru, ac yn y gyfrol gain hon mae Gwyn Thomas, â'i ddawn dweud nodweddiadol, yn ein cyflwyno iddo drwy gyfrwch sgwrs. Wedi rhoi crynodeb o yrfa John, mae Gwyn yn bwrw ati i ofyn cwestiynau treiddgar i'r artist am ei ddull o fynd ati i greu'r gelfyddyd, y symbolau sy'n gyffredin yn ei waith, ac agwedd gymdeithasol y cerfluniau, ac yna'n trafod rhai o'r gweithiau unigol mwyaf adnabyddus, gan gynnwys Cofeb Tryweryn a Pieta, mewn manylder. Mae'r lluniau lliw trawiadol o'r cerfluniau a geir yn y gyfrol drwyddi draw yn ategu'r testun gan greu astudiaeth deilwng o fywyd a gwaith yr artist rhyfeddol hwn.