Mae'r gyfrol hon yn dilyn helyntion Meic Stevens yn Llydaw ar ddechrau'r saithdegau wrth iddo grwydro o un wyl a sesiwn feddw i'r llall. O Rue St Michel i'r gorllewin gwyllt, cawn gyfarfod a rhai o gerddorion mwyaf lliwgar adfywiad gwerin y wlad.
Wedi dychwelyd i Gymru cynhyrchodd Meic y clasur "Gog" gyda'i adleisiau Llydewig, a dechrau cyfnod newydd ym Mangor gyda Gwenllian. Ond yn y man dychwelodd i fflat yn Conway Road, Caerdydd i fwynhau bywyd bohemaidd gydag actorion a chyfryngis y brifddinas. Cafodd gyfle i gydweithio a Rhydwen Williams ar y sioe "Dic Penderyn", ac wedi mwy o bartis gwyllt yn awyrgylch gyffrous diwedd y saithdegau, dychwelodd i'r gogledd i gynhyrchu campwaith arall - "Nos Du, Nos Da".
Dyma barti o lyfr sy'n disgrifio cyfnod mwya gwyllt a chynhyrchiol Meic Stevens, pan gafodd ei gydnabod feol un o wir arloeswyr canu poblogaidd Cymraeg.