Croeso i gyfres (series) o lyfrau modern am Gymru: diddorol, lliwgar, geira i'ch helpu. Dewch i gael 'mynediad' (access) i wybodaeth (information) ddiddorol am Gymru: hanes a daearyddiaeth (geography), gwaith a hamdden, sgwrsio a phobl leol (local). Mae rhai o'r llyfrau yn y gyfres yn iaith y de, a rhai yn iaith y gogledd - ond dyw'r ddwy 'iaith' ddim yn wahanol iawn! Gobeithio bydd pawb eisiau darllen y llyfrau i gyd - a dod i adnabod iaith y gog a'r de! Os dych chi'n dysgu Cymraeg, mae iaith y llyfr ar lefel Cwrs Mynediad. Yn y llyfr hwn dyn ni'n cael cipolwg (glimpse) ar rai o'r pethe diddorol yng nghymoedd Rhondda Cynon Taf, Elai a Rhymni. Mae yma storiau am leoedd (places), pobl a digwyddiadau (events). Dewch am dro gyda ni!