Artist ei gynefin yw Kyffin Williams, yn paentio pobl, anifeiliaid a thirwedd Gwynedd, bro ei febyd. Lliwiau natur yw lliwiau ei baent ef: caiff gwyn, gwyrdd, llwyd a brown eu taenu'n drwchus? chyllell balet i greu ei luniau nodweddiadol o greigiau a chribau, awyr a llynnoedd. Rhywbeth sy'n hynod bwysig i Kyffin yw ei lyfrgell o atgofion, y gronfa o ddelweddau a gasglodd wrth grwydro a phaentio yn yr awyr agored. Dros y blynyddoedd, sylweddolodd nad oedd angen iddo gario'i gynfas a'i ?sl dros faes a bryn, ond y gallai weithio llawn cystal yn ei stiwdio. Daeth 'lliw Gwynedd' yn rhan ohono. Mae'r llyfr hwn yn defnyddio geiriau Kyffin ei hun a detholiad o'i baentiadau a'i luniau i ddangos Cymreigrwydd cynhenid ei waith - mae'n arlunydd sy'n rhan annatod o'i gynefin