Chwerthin, dagrau, ysbrydoliaeth, dihangfa. Mae cerddoriaeth yn gallu creu amrywiaeth o emosiynau cryfion ynom. Pan fo Eirys yn penderfynu sefydlu'r grŵp gwerin arbrofol 'Dwsin yn y Bar' i chwythu anadl newydd i mewn i hen alawon, mae'r effaith yn bellgyrhaeddol. I bedair o'r 'Dwsin' a'u teuluoedd daw'r penderfyniad i herio'r felodi draddodiadol â mwy nag un nodyn annisgwyl yn ei sgil, a buan y cânt eu harwain i gyweirnodau go wahanol i'r arfer. Eirys, Gwenda, Jackie, Catrin. Er eu bod yn creu alaw sy'n asio'n berffaith mewn gig, ar daith ac ar lwyfan, gwelwn hefyd fod ganddynt eu cân unigryw eu hunain. Yn y bwlch disgwylgar hwnnw rhwng diwedd y gân a dechrau'r gymeradwyaeth, beth sy'n eu hwynebu tybed? Ai curiad gwag neu ymateb sy'n trawsnewid? Dyma stori afaelgar, fywiog am y berthynas gymhleth rhwng pobl â'i gilydd a'r modd y gall cerddoriaeth ein huno a'n cyffwrdd ar y lefel ddyfnaf.