Gwynt y Dwyrain
Sarjant Idwal Davies ydi'r cyntaf i gyrraedd Tan-y-graig y bore Sul hwnnw ar droad y mileniwm. Ac wrth gefnogi'r ymchwiliad i farwolaeth y ferch ifanc mae'n llithro'n llawer rhy agos i galon yr achos ac yn gorfod wynebu profiadau anodd o'i orffennol ei hun. Chwip o nofel sy'n diddanu wrth ofyn cwestiynau dwys am fywyd ac am ddirywiad y gymdeithas Gymraeg.