Chwedlau Gwerin Cymru
Llyfr yn cynnwys dros 60 o chwedlau gwerin a llawer o wybodaeth am arferion gwerin Cymru, yn ôl eu hardal, gan gynnwys Cantre'r Gwaelod (Ceredigion), Nant Gwrtheyrn (Gwynedd), Gwenfrewi (Fflint) a marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri. Maent wedi eu hysgrifennu'n ddisglair gan yr awdur toreithiog Robin Gwyndaf gyda darluniadau lliw gan Margaret Jones.
Mae'r gyfrol hefyd yn cyfeirio at hen arferion y Cymry fel canu calennig, y Fari Lwyd, Gwaseila, Hela'r Dryw a'r Gaseg Fedi.
Bu'r gyfrol wreiddiol yn hynod boblogaidd gan fynd i sawl argraffiad o dan ofal Amgueddfa Genedlaethol Cymru.