I'r Hen Blant Bach
Pan mae Awen yn cyrraedd clos hen dŷ fferm Ceridwen yn ddirybudd, mae'r lle'n ddihangfa iddi. Yma roedd Ceridwen wedi dianc hefyd, gan ffoi oddi wrth y byd modern a chau'r drws ar fyd llawn casineb. Cyfle i'r ddwy gau'r drws ar eu gorffennol.
Rhaid i Awen ddianc oddi wrthi hi ei hun, ond beth yw dihangfa mewn gwirionedd? Mae cyfeillgarwch y ddwy yn plethu wrth i hen feddyginiaethau byd natur eu gwella. Ond meistr creulon yw natur.
Ac yn y Cartref, mae'r rhwyd yn dechrau cau...
*RHYBUDD: Gall themâu'r nofel hon achosi pryder i rai pobl