Mae Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn ddrych gwleidyddol sydd yn trafod rhyfel yn y dyfodol rhwng Gwlad Alltud a chynghrair sydd yn cynnwys Tir Bach, Haf heb Haul, Gaeaf Mawr a gwledydd eraill. A hwythau dan ormes y gelyn, mae trigolion Llawr Gwlad yn dyheu am ryddid ac am hunanlywodraeth i'w gwlad. Ymgyrch Gwern Esgus i drefnu chwyldro yw canolbwynt y stori. Mae Gwern yn ffoi o'i gartref rhag iddo gael ei garcharu yng ngastell Entwürdigung, ond ni lwydda'i gariad Anwes Bach y Galon i ddianc, ac y mae hi a'i mab yn cael eu caethiwo. Dilyn hynt a helynt Gwern Esgus y mae'r darllenydd wrth i hwnnw ymweld â gwledydd y ddarpar gynghrair, ond cael ei fradychu a'i ladd yw hanes Gwern yn y diwedd. ar sawl golwg, dameg yw Seren Wen ar Gefndir Gwyn sydd yn sôn am y difrod mae totalitariaeth yn ei achosi i ddiwylliant y cenhedloedd bychain. Gellid dadlau fod awdur yn condemnio neo-imperialaeth yr oes sydd ohoni, boed yng ngorllewin Ewrop neu yn y dwyrain canol. Bu'r nofel yn hwb fawr i llenyddiaeth y Gymraeg pan gafodd ei chyhoeddi yn 1992. Mae iaith yn llyfr yn drawiadol o wreiddiol ac y mae'n cyfuno elfennau o ramantau'r Gymraeg Canol a iaith lafar y Gogledd. Byd heb ffiniau yw byd y llyfr, ac yn y byd hwwnw syniadau yw'r tirwedd.