Adolygiadau
"Heb os mae hwn yn un o'r bywgraffiadau gwleidyddol gorau i mi ddarllen mewn unrhyw iaith."
- Vaughan Roderick
"Nid gormodiaith yw galw'r gyfrol yma yn gampwaith - llwyddodd ei hawdur i saernio darlun sy'n gytbwys tra'n finiog, yn gynhwysfawr tra'n ddifyr tu hwnt."
- Dr Richard Wyn Jones
"Camp Rhys Evans yw ei fod wedi cyflwyno astudiaeth ddeallus a threiddgar mewn cyfrol ddarllenadwy a hygyrch. Mae'r arddull newyddiadurol yn gyson a chlir; does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae'n tynnu'r darllenydd i mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeinfed ganrif."
- Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2006
"Does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae'n tynnu'r darllenydd I mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeinfed ganrif."
- Catrin Beard
"Mae'r cyfanwaith yn ddifyr, dadlennol a dramatig"
- Dafydd Glyn Jones
"Rhinwedd mawr yn y llyfr, rhinwedd mewn unrhyw gofiant neu lyfr hanes, yw ei fod yn codi tryblith o feddyliau. Meddyliau croes yw llawer ohonynt, yn ein hanesmwytho ynghylch ein safbwyntiau a'n dewisiadau ein hunain yn ystod y cyfnod maith a ddisgrifir."
- Dafydd Glyn Jones
"Gwerth digamsyniol cyfrol arddechog Rhys Evans yw ateb nifer o gwestiynau sy'n ymwneud â sut a phaham y bu i Gwynfor ymddwyn yn y ffordd y gwnaeth. Cawn yma hanes ffurfiant cymeriad unigryw, cymhleth ac argyhoeddiedig, un a oedd, ar yr un pryd fel petai, yn cynrychioli'r math o Gymro y dymuna nifer fod, heb iddynt wybod yn union paham."
- Colin Williams, Cylchgrawn Taliesin
"Mawr hefyd yw'r ddyled i Rhys Evans am groniclo oes Gwynfor mewn dull mor fyddlon a chytwbys – astudiaeth o gymeriad unigolyn a geir yma, nid hanes gwleidyddol a chymdeithasol y genedl yn unig."
- Colin Williams, Cylchgrawn Taliesin