A Oes Heddwch?
A Oes Heddwch? - yw cwestiwn pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Ond yr ateb i'r cwestiwn yw, "Nac oes". Dengys y llyfr hwn, mewn ffordd graffig a byw iawn, sut nad oes heddwch heddiw. Rhestrir y bomiau, yr arfau niclear a chemegol, y taflegrau a'r dulliau rhyfela a ddatblygodd oddiar 1945, pan ollyngwyd y bom atomig cyntaf ar Hiroshima.
Mae'r llyfr hefyd yn gofyn pam nad oes heddwch. Ai ar y gwyddonwyr y mae'r bai neu'r gwleidyddion? A oes ran o'r bai arnom ni, bobl gyffredin? Beth allwn ni ei wneud heddiw?
"A FYDD heddwch?" yw'r cwestiwn pwysicaf oll.
Pwrpas y llyfr hwn yw ysgogi trafodaeth ddeallus - a, gobeithio, gweithredu pendant - er mwynmedru ateb, rhywbryd, - "Bydd!"