Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

'Sneb yn Becso Dam

Mari Rhian Owen  Llyfrau eraill gan Mari Rhian Owen

Drama gerdd newydd sbon, wedi'i seilio ar ganeuon Edward H Dafis, ar gyfer pobl ifanc sy'n cynnwys sgript wreiddiol a 12 cân ac yn para tua 100 munud i'w pherfformio.

Mae'r stori'n troi o gwmpas Lisa Pant Ddu sydd wedi cael digon ar ei bywyd undonog ac yn ysu am gael profiadau gwahanol, ond dyw bywyd yn y ddinas fawr ddim cweit yr hyn a ddychmygodd.

Mae'r caneuon hynod gofiadwy yn atgyfnerthu'r tyndra sy'n wynebu pobl ifanc wrth iddynt ddewis rhwng bywyd y dref a bywyd cefn gwlad; rhwng gwarchod "yr hen ffordd Gymreig o fyw" a llunio Cymru gyfoes.

Perfformiwyd y sioe gan gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ym mis Gorffennaf 2012.

Sgript: Mari Rhian Owen

Trefniant Cerddorol: Rhys Taylor

ISBN: 9781847715050

Adran: Cerddoriaeth

Iaith: Cymraeg

£11.95     







Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304