Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Yr Erlid (meddal)

Heini Gruffudd  Llyfrau eraill gan Heini Gruffudd

Llwyddodd Kate Bosse-Griffiths i ffoi o'r Almaen i wledydd Prydain yn 1937. Caru, priodi, cychwyn llenydda yng Nghymru a sefydlu Cylcg Cadwgan yn y Rhondda oedd ei hanes ar adeg pan droes y Natsiaid fywyd pobl yr Almaen ac Ewrop yn uffern.

Cafodd ei theulu ei erlid. Ceisiodd rhai fod yn rhan o'r system, roedd eraill yn ymdrechu i fyw er gwaetha'r system, ac eraill yn gwrthwynebu'n hunanaberthol.

Cefndir llawer o'r digwydd yw tref Wittenburg, lle y bu Martin Luther yn taranu i newid trefn yr Eglwys; taranodd hefyd yn erbyn yr Iddewon, a manteisiodd y Natsiaid ar hyn.

Seiliwyd yr hanes ar gannoedd o lythyrau, dogfennau ac adroddiadau'r teulu. Soniant am ymosodiadau Kristallnacht, bywyd o dan y drefn wallgof, manylion gwersylloedd carchar, ffoi i Shanghai, hunanladdiad a lladd.

Mae yma hanes o garu a chasau, gwarchod ac erlid, dyheu a dychryn yn y cyfnod mwyaf dinistriol a welodd Ewrop erioed.

Mae fersiwn clawr caled ar gael hefyd.

ISBN: 9781847714312

Adran: Cofiannol Hanes

Iaith: Cymraeg

£12.95     



eLyfrGellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £12.95
Ffurf(iau) ar gael: .epub;  Beth yw 'epub'?


Mwy am eLyfrau Y Lolfa


Adolygiadau

  "Wrth fynd yn ei blaen, mae'r stori'n gafael, ac wedi cau'r cloriau mae dyn yn cael ei adael wedi'i addysgu, ei ysgwyd, ei sobreiddio a'i gyfareddu." - Cynog Dafis

  "Does gen i ddim gofod i fanylu ar yr erlid, y carcharu a'r lladd – rwy'n eich annog i brynu'r llyfr ac o'i ddarllen byddwch fel fi yn cyfrif eich bendithion ac yn gweddio na ddigwydd y camwri mawr fyth eto." - W.J.Edwards, Y Cyfnod

  "Math o hanes cymdeithasol yw hanes pob teulu, dim ond iddo gael ei ysrifennu gydag ymwybyddiaeth o'r cyd-destun ehangach. Gall ddod â ni'n nes at wead cymhleth cyfnod arbennig na gosodiadau mwy cyffredinol haneswyr proffesiynol. Dyma a ddigwydd yn achos cyfrol gofiadwy Heini Gruffudd am ei fam a'i theulu mewn cyfnod dirdynnol." - Ned Thomas, Barn

  "Mynnwch gopi o'r llyfr diddorol a phwysig hwn ac ar ben hynny gwahoddwch Heini Gruffudd i roi darlith i chi ar hanes ei deulu yn cael ei erlid gan y Natsiaid." - Emyr Llywelyn, Y Faner Newydd




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304