Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Cofnodion

Meic Stephens  Llyfrau eraill gan Meic Stephens

Yn "Cofnodion" mae Meic Stephens yn edrych yn ôl ar ei fywyd fel llenor, golygydd, swyddog Cyngor y Celfyddydau, athro prifysgol a dyn teulu. Mae cyfraniad nodedig Meic i ddwy lenyddiaeth Cymru wedi'i gydnabod yn eang, ac yntau wedi ysgrifennu, cyfieithu neu olygu tua 170 o gyfrolau. Gweithiodd yn ddiflino dros ddegawdau lawer, ac er ei fod bellach wedi cyrraedd oed yr addewid mae ei ddiwydrwydd yn parhau. Trodd yn ddiweddar at farddoni yn Wenhwyseg, a daeth o fewn trwch blewyn i gipio Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur.

Magwyd Meic ar aelwyd ddi-Gymraeg yn Nhrefforest a chawn ganddo hanes ei ddyddiau cynnar, ynghyd â'i ymdrechion fel oedolyn i ddatrys dirgelwch gwreiddiau teulu ei dad yn Sir Faesyfed. Ei dad-cu o Sais fu'n bennaf cyfrifol am gynnau'r tân yn ei fol dros ei wlad, ac roedd Meic yno ar Bont Trefechan ym 1963 ym mhrotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu'n weithgar yn y frwydr genedlaethol dros y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod ei gyfnod yn byw ymhlith nifer o Bleidwyr amlwg yng Ngarth Newydd ym Merthyr.

Treuliodd gyfnod yn Llydaw, dysgodd Ffrangeg yng Nglynebwy a bu'n Athro ym Mhrifysgol Brigham Young yn Utah cyn cael cadair ym Mhrifysgol Morgannwg.

Ac yntau hefyd yn adnabyddus fel awdur erthyglau coffa i lu o Gymry amlwg yn yr Independent, dyma hunangofiant ffraeth yn llawn sylwebaeth dreiddgar a digyfaddawd y dyn ei hun.

ISBN: 9781847714305

Adran: Cofiannol

Iaith: Cymraeg

£9.95     




Adolygiadau

  "Hyd yn oed os ydach chi wedi dechrau cael llond bol ar y ffrwd o bresennol o hunangofiannau Cymraeg, rhowch gynnig ar hwn. Yn enwedig os ydach chi wedi colli amynedd efo awduron sy'n ymatal rhag dweud yr hyn maen nhw'n ei feddwl go iawn o hwn a'r llall... Mae Meic Stephens yn rhostio rhai o fuchod sanctaidd y byd llenyddol, ac yn gollwng cathod o gydau." - Vaughan Hughes, Barn

  "I'r rheiny ohonom sy'n ymwneud â llenydda yng Nghymru, mae Meic Stephens yn gawr... Mae hwn yn hunangofiant diddorol a dadlennol, sy'n codi'r llen ar fywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru'r hanner can mlynedd diwethaf. Heb os, mae sawl rheswm gennym i fod yn falch i Michael Stephens ddewis bod yn Feic." - Daniel G. Williams, Taliesin




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304