Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Bwystfilod a Bwganod

Manon Steffan Ros  Llyfrau eraill gan Manon Steffan Ros

Penliniai mam a brawd Hilda o flaen y teledu fel petaent wedi eu hypnoteiddio gan y bocs bach yng nghornel yr ystafell. "Be sy'n digwydd yma?" gofynnodd Hilda mewn syndod.

Trodd Gwilym, ei brawd ati, "Edrycha ar hwn, Hilda! Mae'r peth yn anhygoel, a does gan neb 'run syniad pam bod hyn wedi digwydd!..."


Dyma nofel llawn cyffro yn dilyn hynt a helynt Hilda, Tom a Hywel sy'n mynd ar grwydr rhyfeddol i wynebu bwystfilod a bwganod ar draws Cymru. Ydy Hilda a tom yn casau ei gilydd? Ydy Hywel yn gymeriad mor llwyd a diflas ag mae'n ymddangos? Beth yw'r Leiac, y Dwergar a'r Nwcecwbi? Cewch wybod y cyfan am y bwystfilod a'r bwganod yn y nofel fyrlymus a chyffrous hon gan Manon Steffan Ros.

ISBN: 9781847712264

Adran: Arddegau Ffuglen

Iaith: Cymraeg

Rhan o'r cyfres: Cyfres yr Onnen

£5.95     







Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304