Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

O Wythnos i Wythnos

R Gerallt Jones  Llyfrau eraill gan R Gerallt Jones

Yn wythnosol o Fehefin 1960 i Fehefin 1962 bu R Gerallt Jones yn ysgrifennu erthygl i'r Llan, wythnosolyn yr Eglwys yng Nghymru. Cipolwg sydd yma ar ddigwyddiadau'r dydd, y personoliaethau gwleidyddol, llenyddol ac Eglwysig yn ogystal a'r syniadau a'r problemau a fu'n ysgwyd y genedl yn ystod y ddwy flynedd, ym myd addysg, iaith a chwaraeon, gan gyffwrdd hefyd ag ambell saib o dawelwch a myfyrdod llawen. Mae'r gyfrol yn cynnig cipolwg ar waith cynnar un o lenorion mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Mae'n bwrw goleuni ar ddirnadaeth graff Gerallt o'r berthynas annatod rhwng y plwyfol a'r rhyngwladol. Ymddengys y ddirnadaeth hon yng ngwead ei waith diweddarach, mwy adnabyddedig, a dyma sy'n gwneud ei weledigaeth mor berthnasol heddiw.

ISBN: 9781847712073

Adran: Gwleidyddiaeth Hamdden

Iaith: Cymraeg

£9.95     







Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304