| Gold Hunter William Vaughan Llyfrau eraill gan William Vaughan
Ym 1864 mae bachgen un-ar-bymtheg mlwydd oed yn dwyn cynilion ei fam weddw ac yn hwylio o Gaerdydd i Awstralia i chwilio am aur. Teithia William Jenkins i'r gwylltir i ddod ar draws meddwon, crocodeilod, herwyr a chynfrodorion sydd ag enw am ganibaliaeth. Pan ddaw ar draws cymuned o gyn-garcharorion, dywed yr arweinydd wrtho, "Ti yw'r un a anfonwyd atom gan Dduw." Caiff William ei ryfeddu wrth gael cynnig hanner yr elw o gloddfa aur. Ond cyn i William ddychwelyd i Gymru, mae'n sylweddoli fod yna bethau pwysicach mewn bywyd na chyfoeth.
Dyma stori fydd yn siwr o blesio pobl ifanc sy'n mwynhau stori antur wedi'i hysgrifennu'n dda.
ISBN: 9781847712004
Adran: Arddegau Ffuglen
Iaith: Saesneg
£4.95
|
|