| Y Llyfrgell Fflur Dafydd Llyfrau eraill gan Fflur Dafydd
Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi'n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Yn ei gyfarch wrth y drws mae Eben, y cofiannydd, sy'n ysu am gael mynediad. Ond yn ddiarwybod i'r ddau, mae Ana a Nan, dwy lyfrgellwraig a'u bryd ar ddial, ar fin newid hanes Llyfrgell Genedlaethol Cymru am byth.
Mae'r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau - lle mae bwledi'n tarfu ar y tawelwch, yr Ystafell Ddarllen yn gell, a'r Llyfrgell ei hun yn un o wrth-arwresau mwyaf ein llên...
ENILLYDD GWOBR GOFFA DANIEL OWEN 2009
ISBN: 9781847711694
Adran: Ffuglen
Iaith: Cymraeg
£8.95
Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £7.95 Ffurf(iau) ar gael: .epub; Beth yw 'epub'?
Mwy am eLyfrau Y Lolfa
Adolygiadau "Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl lefel, ac y mae ynddi stori ardderchog." - Rhiannon Lloyd "Mae'n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri, ein harswydo, a'n gogleisio ar yn ail... darn o lenyddiaeth sy'n bleser pur." - John Rowlands "nofel wedi ei chynllunio'n ofalus ac yn gyforiog o hiwmor a choegni a chlyfrwch tafod-mewn-boch." - Geraint Vaughan Jones
|
|