| Awr y Locustiaid Fflur Dafydd Llyfrau eraill gan Fflur Dafydd
Naw stori fer drawiadol gan yr amryddawn Fflur Dafydd.
O'r Cymreig i'r Ewropeaidd, ac o'r dychanol i'r myfyriol, dyma gasgliad fydd yn swyno'r darllenydd, ond hefyd yn ei herio i lenwi ambell fwlch drosto'i hun.
ISBN: 9780862439828
Adran: Ffuglen
Iaith: Cymraeg
£7.95
Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £6.95 Ffurf(iau) ar gael: .epub; Beth yw 'epub'?
Mwy am eLyfrau Y Lolfa
Adolygiadau "'Dw-i ddim yn cofio'r ail beth 'ddwedais i, saith mlynedd yn ol, pan ddarganfum storiau Fflur Dafydd. Ond dw-i'n cofio'r peth cyntaf: Wow! Mae hi'n cydio mewn brawddeg , ac yn ei thaflu'n delyneg i'r awyr. Ac mae'n hedfan. Wedyn, brawddeg, ac mae honno'n hedfan. Ac felly ymlaen, ac maen nhw i gyd yn telori'n ddisglair. Ac yna, fesul un, maen nhw'n disgyn tua'r llawr, ac yno yn ffurfio patrwm hyfryd. A'r hyn maen nhw'n 'ddweud gyda'i gilydd yw: "Onid yw bywyd yn llawn?" Sylw pwysig." - Bobi Jones "O'r frawddeg agoriadol mae delweddau Fflur Dafydd yn gafael yn y darllenydd ac yn ei gofleidio tan y diwedd." - Mihangel Morgan
|
|