| Cerddoriaeth y Cymry Arfon Gwilym Llyfrau eraill gan Arfon Gwilym
Mae gan Gymru draddodiad cerddorol hir a chyfoethog, a chyflwynir hanes y traddodiad unigryw hwnnw mewn modd hylaw a darllenadwy yn y gyfrol hon. O'r traddodiad canu penillion, yr eisteddfodau cynnar, i'r gwyliau tymhorol mae'r gyfrol yn rhoi blas o hen arferion y Cymry. Ceir hefyd gipolwg ar yr offerynnau a ddatblygodd yng Nghymru ers yr Oesoedd Canol a'r unigolion hynny a wnaeth gymaint o gyfraniad i gynnal y traddodiad gwerin a'i adfywio yn ystod yr Ugeinfed Ganrif. Dyma gyfrol anhepgor i unrhyw un sy'n ymddiddori yn y traddodiad cerddorol Cymreig.
ISBN: 0862439787
Adran: Hanes Cerddoriaeth
Iaith: Cymraeg
£5.95
|
|