Newyddion
Her i ddringo mynyddoedd Cymru yn y flwyddyn newydd
Gyda hwyl yr ŵyl wedi darfod, mae Dewi Prysor, yn ei lyfr newydd, 100 Cymru: Y Mynyddoedd a Fi yn cynnig her iachus i ddringo 100 copa uchaf Cymru yn y flwyddyn newydd. darllen mwy
Cyhoeddi nofel ddaeth yn agos at gipio Gwobr Goffa Daniel Owen 2021
Yr wythnos hon cyhoeddir ail nofel John Roberts, Yn fyw yn y cof (Y Lolfa). Cyfrol am gefn gwlad a’r ddinas, am golli a dal gafael ac am gariad a dialedd. Roedd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod AmGen eleni yn llawn canmoliaeth, a bron iddi gipio’r wobr yn y gystadleuaeth honno. darllen mwy
Cyfrol i danio'r her o gerdded 100 copa uchaf Cymru
Ers Covid ymddangos yn ein bywydau mae poblogrwydd cerdded a mynydda wedi cynyddu yn sylweddol gyda nifer fawr o bobl yn sylweddoli ein bod ni’n lwcus iawn byw mewn gwlad mor hardd a Chymru. Yr wythnos hon cyhoeddir100 Cymru: Y mynyddoedd a fi (Y Lolfa) cyfrol weledol ddeniadol sy’n dathlu 100 mynydd uchaf Cymru gan rannu gwybodaeth ymarferol a hanesion Dewi Prysor wrth iddo eu dringo yn 2017. Mae’r gyfrol clawr caled yn berffaith i’w rhoi fel anrheg y Nadolig hwn. darllen mwy
Chwerthin, cariad a galar - stori Carys Eleri
Yn ei llyfr hunangofiannol newydd, mae’r awdures, y gantores a’r digrifwr Carys Eleri yn rhoi cipolwg o’i magwraeth yn Sir Gaerfyrddin, ei gyrfa liwgar ddilynodd hynny, cyn rhannu’n sensitif hanes diagnosis trasig ei diweddar dad, David Evans, â chlefyd Niwronau Motor yn 2018. darllen mwy
Hunangofiant un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gâr
Yr wythnos hon cyhoeddir hunangofiant yr amryddawn Arwyn Thomas, un o gymeriadau a chymwynaswyr mawr Sir Gaerfyrddin. Mae Mwy Nag Un Llwyfan (Y Lolfa) yn llawn straeon ffraeth sy’n adlewyrchu ei gymeriad triw, hwyliog a theyrngar a’i gariad tuag at ei filltir sgwâr. darllen mwy
Cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Ioan Roberts
Flynyddoedd yn ôl, gofynnodd y Cylch Catholig i’r diweddar Ioan Roberts ysgrifennu hanes y Cylch o’i dechreuad a’r mis hwn mae ffrwyth ei waith, Gwinllan a Roddwyd – Hanes Y Cylch Catholig yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa. darllen mwy
Goronwy Evans yn procio'r cof ar ôl 50 mlynedd o wasanaethu'r gymuned
Nid hunangofiant traddodiadol yw’r gyfrol, meddai Goronwy Evans: “Pan ofynnwyd i fi a oedd diddordeb gen i mewn ysgrifennu hunangofiant, fy ateb oedd nad oeddwn yn hapus i wneud hynny o dan y teitl ‘hunangofiant’. Yn iaith Ifans y Tryc, “Sgersli bilîf” bod pawb yn datgelu popeth mewn hunangofiant, mwy na fyddwn i am wneud. Cytunais i gasglu ychydig o’m hanes o dan y teitl Procio’r Cof.” darllen mwy
Nofel bwerus gyntaf yr actores adnabyddus Ffion Dafis
Yn dilyn ei chyfrol oedd yn cyfuno’r hunangofiannol gyda ffuglen, Syllu ar Walia’, yn 2017, mae’r actores amryddawn Ffion Dafis nawr wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf bwerus – Mori (Y Lolfa). darllen mwy
Llyfr newydd Nadoligaidd i addysgu plant am ffoaduriaid
Cyhoeddir Cyfrinach Noswyl Nadolig gan Eurgain Haf (Y Lolfa) yn barod at y Nadolig. Yn ogystal â stori hyfryd Nadoligaidd mae i’r gyfrol wers bwysig iawn – sef i fod yn garedig i bawb, o bob cefndir a hil. darllen mwy
Y seiciatrydd adnabyddus, David Enoch, yn cyhoeddi cofiant grymus o'i fywyd sy'n pontio ffydd a meddyginiaeth
Yn 95 mlwydd oed, mae’r seiciatrydd Dr David Enoch, sy’n adnabyddus dros y byd, yn cyhoeddi ei hunangofiant. Mae Enoch’s Walk – 95 Not Out: Journey of a Psychiatrist yn cofnodi hanes bywyd rhyfeddol y seiciatrydd Cristnogol, gan fanylu ar bum brif elfen ei fywyd, sef bod yn ddoctor, seiciatrydd, pregethwr, darlledwr ac awdur – gan ddechrau gyda’i wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin. Mae Dr David Enoch wedi bod ar flaen y gad gyda digwyddiadau cymdeithasol, crefyddol a meddygol, sy’n gwneud y cofnod o lygad y ffynnon yma yn un pwysig yn hanes yr unfed ganrif ar hugain. Ar ben hynny, mae’n adrodd stori ei fywyd yn ddi flewyn ar dafod. Mae’n disgrifio ei hun fel un sy’n “benderfynol o bontio’r bwlch rhwng ffydd a meddyginiaeth.” darllen mwy
Atgofion Glan: Y diddanwr prysur fu'n gweithio gyda Ryan a Ronnie a Ken Dodd
Yr wythnos hon cyhoeddir atgofion un o ddiddanwyr mwyaf cyfarwydd Cymru – Glan Davies. Mae O’r Aman i’r Ystwyth wedi’i ysgrifennu ar y cyd ag Alun Wyn Bevan, a fagwyd ar yr un stryd â Glan ym Mrynaman. darllen mwy
Llyfr gan Adam yn yr Ardd i annog plant a rhieni i fynd i arddio
Mae’r garddwr adnabyddus a phoblogaidd o Ddyffryn Aman, Adam Jones, yn cyhoeddi ei lyfr gyntaf i blant – Dere i Dyfu (Y Lolfa). Mae Adam yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i nifer, gyda slotiau cyson ar Prynhawn Da, Heno a BBC Radio Cymru ac mae e hefyd wedi datblygu presenoldeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 18,000 o ddilynwyr ar Instagram (@adamynyrardd)! darllen mwy
Beti George yn galw am chwyldro o ran gofal dementia mewn llyfr newydd
“Mae dementia yn glefyd sy’n llawer mwy cymhleth na cholli cof,” meddai Beti George yn y gyfrol newydd mae hi wedi ei golygu a chyfrannu ati – Datod: Profiadau Unigolion o Ddementia (Y Lolfa). Cyhoeddir y gyfrol amserol yma wrth i glefyd dementia gael ei ystyried yn argyfwng iechyd difrifol – mae’n effeithio ar o leiaf 50,000 o bobl yng Nghymru, ac mae ar gynnydd darllen mwy
Paid â Bod Ofn: Cyfrol amrwd a chynnes am Eden, bywyd a iechyd meddwl
Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr onest a chynnes gan y gantores Non Parry – Paid â Bod Ofn. Yn fwy na hunangofiant, mae’r gyfrol amrwd yn siarad yn agored am ei bywyd, iechyd meddwl ac am salwch ei gŵr, yr actor Iwan John, a’r effaith mae’r profiadau hyn wedi ei gael ar y teulu oll. darllen mwy
Diweddglo "tanllyd" i'r "drioleg drosedd orau yn yr iaith Gymraeg"
Disgrifiwyd trioleg drosedd Alun Davies fel “y drioleg orau i fi ddarllen yn yr iaith Gymraeg” gan yr awdur arobryn a’r plot-feistr Llwyd Owen. Yr wythnos hon cyhoeddir nofel olaf y drioleg, sef Ar Daith Olaf (Y Lolfa) gan ddilyn y nofelau hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial gan ddod â’r drioleg afaelgar a thywyll hon i ben. Mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi ac fel y ddwy nofel gyntaf, mae yna ddirgelwch i’w ddatrys yn ardal Aberystwyth. darllen mwy
Stori ddelfrydol am wrachod ar gyfer Calan Gaeaf
Mae Bethan Gwanas eisoes wedi ysgrifennu dwy nofel boblogaidd i oedolion am wrachod, ond yr wythnos hon cyhoeddir llyfr i blant gan yr awdures gyda naws berffaith ar gyfer Calan Gaeaf – Cadi a’r Gwrachod. darllen mwy
Geraint V. Jones, un o gewri ein llên
Mae Geraint wedi cael cyfnod cynhyrchiol o ysgrifennu yn ddiweddar – Niwl Ddoe (Y Lolfa) fydd ei drydedd nofel mewn pedair blynedd. Cyhoeddodd Elena yn 2019 ac Yn Fflach yn Fellten yn 2018 gyda gwasg Y Lolfa, a’r ddwy nofel yn cael derbyniad ardderchog. Mae’n storïwr wrth reddf ac wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ar sawl achlysur. darllen mwy
Dilyniant i enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021
Yr wythnos hon cyhoeddir Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa), sef dilyniant i Sw Sara Mai – y nofel a enillodd Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae’r ail gyfrol yn ymweld eto â Sw Halibalŵ ac yn rhoi’r cyfle i ni ddod i adnabod Sara Mai yn well ac i ddysgu mwy am gyfeillgarwch, cyfrinachau a phwysigrwydd peidio beirniadu pobl ar sail eu hedrychiad, yn ôl yr awdur Casia Wiliam. darllen mwy
Nofel gyntaf y cyflwynydd radio, Aled Hughes
Nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned yw Hela. Mae’r ffrindiau bore oes, Callum, Babo, Jac-Do a Saim Bach yn gorfod tyfu i fyny’n gyflym iawn wrth i gymuned Porth Milgi, ei phobl a phob dim sy’n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu’n yfflon. darllen mwy
Tonic o nofel hwyliog a sylwgar i lonni'r galon
Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun yn frenhines y nofel gyfoes boblogaidd Gymraeg, ac ni fydd ei nofel newydd Pum Diwrnod a Phriodas (Y Lolfa) yn siomi! Mae’r nofel yn deimladwy ac yn ffraeth, ac yn donic ar ôl y flwyddyn anodd sydd newydd fod. darllen mwy
101-120 o 350 | 1 . . . 5 6 7 . . . 18 | |
Cyntaf < > Olaf |