“Mae’n rhaid i dref fach fel hon gael ff*c-yps, sti. Am be fasa pawb yn siarad fel arall?”
Y mis hwn daw nofel newydd i oedolion ifanc gan yr
awdur plant adnabyddus, Casia Wiliam. Enillodd Casia wobr Tir Na Nog yn 2021 am
ei nofel i blant, Sw Sara Mai. Bu’n Fardd Plant yn 2017-2019 ac mae wedi
cyhoeddi llawer o lyfrau i blant ers hynny ond nawr mae’n cyhoeddi ei nofel
gyntaf ar gyfer oedolion ifanc.
Mae Sêr y Nos yn Gwenu yn dilyn cyfnod ym
mywydau Leia a Sam. Pan eisteddodd Sam drws nesaf i Leia ym Mlwyddyn Dau,
digwyddodd rhywbeth a newidiodd popeth. Tyfodd edau anweledig rhyngddynt, edau
sydd wedi eu clymu a’u tynnu at ei gilydd fyth ers hynny. Ond bymtheg mlynedd
yn ddiweddarach mae bywyd yn fwy cymhleth, gyda Leia yn wynebu cyfnod o
wasanaethu cymdeithasol, a Sam yn dygymod â cholled enfawr.
Wrth i’r ddau ddelio â heriau tyfu i fyny mewn
tref fechan, a fydd yr edau’n dal yn dynn? Neu ydy’r cwlwm yn rhy flêr i’w
ddatod bellach?
Mae’r nofel yn cychwyn yng Nghanolfan Gymunedol
Llanfechan, lle mae Leia ar ddiwrnod cyntaf ei gwasanaeth cymdeithasol dan lygad
barcud ei Swyddog Prawf, Kevin Moss. Yn sgil ei dyletswyddau yn y Ganolfan daw
Leia ar draws unigolion a grwpiau o blant ac oedolion o’r gymuned nad oedd hi
erioed wedi eu cyfarfod o’r blaen, gan ei gorfodi i ddod yn rhan o rhywbeth
sydd tu hwnt iddi hi ei hun.
“Mae hi’n nofel am y profiad cymhleth o dyfu i fyny,
o drio deall pwy wyt ti a beth wyt ti isio’i wneud efo dy fywyd,” meddai Casia,
sy’n gweithio’n llawrydd ar brosiectau cyfathrebu ac ysgrifennu creadigol.
“Mae’r stori yn trafod galar, trosedd, cyffuriau a heriau bod yn berson ifanc.
Ond yng nghanol hynna i gyd dwi’n gobeithio bod llawer o hiwmor hefyd, a
gobaith. Mae hi’n stori am gymuned, am gariad ac am gael ail-gyfle.”
Nodir ar y clawr ei bod yn nofel ddiflewyn-ar-dafod,
ac yn addas ar gyfer darllenwyr sy’n un ar bymtheg neu’n hŷn.
“Mae yna dipyn o regi ynddi,” esbonia Casia, “Dwi
wedi trio bod yn driw i sut mae pobl yn siarad go iawn a rhoi darlun gonest o’r
profiad o dyfu i fyny mewn tref yng nghefn gwlad Cymru.”
Disgrifia enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 Megan Angharad Hunter y nofel hon fel 'Cwtsh o nofel sy'n gorlifo gan hiwmor cynnes a chymeriadau dirdynnol, byw.' Aiff yn ei blaen i ddweud bod y nofel 'ag adleisiau o Normal People ond sydd hefyd yn fyfyrdod cynnes ar berthnasau ac anobaith Cymry gen z.'