Adolygiadau
Cwtsh o nofel sy'n gorlifo gan hiwmor cynnes a chymeriadau byw. Nofel sydd ag adleisiau o Normal People ond sydd hefyd yn fyfyrdod ar berthnasau ac anobaith Cymry gen z.
- Megan Angharad Hunter
Mae hon yn chwip o nofel, felly ewch ati i'w darllen hi, wnewch chi ddim difaru gwneud. Gawn ni fwy o lyfrau fel hyn, plîs, Casia!
- Ilid Haf, Blog Sôn am Lyfra
Dyma stori am gariad a galar, am gyfeillgarwch, am gymuned. Stori sy'n trafod cymhlethdodau bywyd a'u gwneud yn normal; yn eich gwahodd i aros a theimlo galar y cymeriadau, a thrwy hynny, wynebi eich galar a'ch emosiynau eich hunain [...] Dyma nofel sy'n eich tywys drwy nosweithiau tywyll, ond nid heb eich atgoffa i edrych ar y sêr.
- Manon Gwynant, Cylchgrawn Barn
Hyfryd.
- Iola Ynyr, Instagram
... llyfr bendigedig a doeddwn i ddim yn gallu ei roi i lawr, stori am ail gyfleoedd, cymuned a chariad.
- Denise, Llyfrgelloedd Conwy, X
Chwip o nofel dda - Yn dangos gobaith yn yr anobaith.
- Ion Thomas, X
Yn ei nofel gyntaf i bobl ifanc, mae Casia Wiliam wedi llwyddo i ysgrifennu stori sy'n hyfryd a gonest; yn ddoniol a thorcalonnus; yn obeithiol, ond eto'n real. Gwibiais drwyddi gan fwynhau pob un tudalen... Mae'r themâu a godir o stori sy'n dwyllodrus o syml yn rai hynod o bwysig i'w trafod, yn enwedig i bobl ifanc. Mae'r iaith hefyd yn naturiol ac yn llawn hiwmor - yn amlwg mae'r awdur â chlust dda!
- Mared Llywelyn, Y Cymro