Hywel Gealy Rees
Addysgwyd Hywel Gealy Rees yn ysgolion y Gwendraeth a Chaerfyrddin, a Choleg y Brifysgol Abertawe. Bu'n Swyddog Hysbysrwydd Cynorthwyol gyda'r BBC cyn ei benodi'n Bennaeth Cyhoeddiadau cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Hywel Gealy Rees yn fab i W. M. Rees, sef Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn yn ystod y gwrthwynebiad llwyddiannus i gynllun creu cronfa ddŵr yng Nghwm Gwendraeth Fach.