Donald Evans
Un o brifeirdd prin y 'Dwbwl Dwbwl' yw Donald Evans: enillodd y Goron a'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1977, cyn cyflawni'r un gamp ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw ym 1980. Cyhoeddodd 12 o gyfrolau o farddoniaeth, yr olaf ohonynt, sef Y Cyntefig Cyfoes, yn 2000. Mae'n byw yn Nhalgarreg, nid nepell o Fanc Siôn Cwilt a'r fferm lle y'i magwyd, sef Esgair Onwy Fawr.