Gareth Lloyd James
Yn wreiddiol o Gwmann ger Llanbedr Pont Steffan, mae Gareth bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. Mynychodd Ysgol Gynradd Coedmor ac Ysgol Gyfun Llanbed cyn ennill gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2001. Tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth, ymddiddorodd mewn barddoniaeth ac yn y cynganeddion yn arbennig gan ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llŷn ac Eifionydd yn 1998. Ar ôl graddio, astudiodd i fod yn athro a bellach mae'n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Mae hefyd yn weithgar gyda'r Urdd a bu'n Llywydd y mudiad rhwng 2007 a 2008. Mae Gareth hefyd yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i blant, Dirgelwch Gwersyll Glan-llyn yn 2009. Erbyn hyn ceir mwy o nofelau yn y gyfres gan gynnwys Dirgelwch Gwersyll Caerdydd, Dirgelwch Gwersyll Llangrannog a Dirgelwch Pentre Ifan.