Reviews
Nofel wreiddiol iawn ac roedd y stori'n cydio. Mae dawn dweud anhygoel gan yr awdur. Roedd y cefndir a'r symbolaeth yn creu rhyw fyd hudolus ac mae rhywun yn ymgolli yn holl naws y peth.
Cymeriadau cig a gwaed wedi'u darlunio'n fanwl. Roedd Ned ac Owain Myfyr yn argyhoeddi'n llwyr; felly hefyd y lleoliadau: mae'r awyrgylch ar y noson dyngedfennol yn Llundain yn aros gyda rhywun yn hir.
Mae hon wedi aros yn y cof ers wythnosau, bendant y nofel Gymraeg orau i mi ei darllen eleni, a fedra i ddim meddwl am un Saesneg gystal chwaith.
- Arwel Vittle
Mae Saith Cam Iolo yn nofel fawr, gwbl wreiddiol sy'n creu awyrgylch ac yn dod â chymeriadau hanesyddol yn fyw mewn ffordd gelfydd a chlyfar. Gobeithiaf yn arw y bydd yn cael ei thrysori gan ddarllenwyr Cymraeg am ei steil a'i gwreiddioldeb.
- Manon Steffan Ros
Mae'r awdur hwn yn gynganeddwr medrus. Mae ei ryddiaith yn ddigon cyfoethog fel y mae ond mae'n ildio i farddoniaeth ar adegau, a'r cyfan yn cydweithio i greu arddull sy'n annisgwyl o wreiddiol. Mae ganddo ddawn storïwr hefyd. Mae yma wreiddioldeb ysgubol a mawredd mewn mannau.
- Jerry Hunter
Cefais fy swyno gan y gwaith amlhaenog hwn, gan awchu am ei alddarllen yn syth wedi'r darlleniad cyntaf... Dwi'n grediniol fod yma gyfrol o bwys.
- Mari Emlyn
Ar un lefel y mae'r awdur yn rhoi cig a gwaed ar dwyll hanesyddol enwog Iolo Morgannwg. Ond, mae haenen arall i'r darn hwn o lenyddiaeth; sawl un, a dweud y gwir. Nofel am ysgrifennu ydyw, nofel am grefft y llenor; am hyblygrwydd ystyr gair; am harddwch rhythm; am guriad cystrawen gywir; am dynfa llenyddiaeth, fel cyffur, i'r rhai sydd yn gorfod ysgrifennu, am ganfod dy gan.
- Diarmait Macgiollachroist, Cwlwm, Gorff / Awst
Mae lliaws o rinweddau eisteddfodol yn y gwaith: mae yma gig ar esgyrn pob cymeriad, a chawn ein gwala a'n gweddill o frawddegau cain, symboliaeth, trosiad, cymhariaeth, mae'r cyfan yma'n gyfoeth hawdd ei gael. Prynwch hi ar unwaith Gymry da.
- Rhiannon Ifans, Cylchgrawn Barn
Roeddwn i'n gweld pob cerpyn a chraith ar Ned fel tasa nhw o 'mlaen i ac roedd pob lleoliad a chymeriad yn dod yn fyw yn fy nychymyg i. Mae gan yr awdur ddawn arbennig am greu cymeriadau a disgrifiadau.
- Tri ar y Tro, Cylchgrawn Golwg
Nofel ddiddorol a'r awdur yn llwyddo'n dda i greu sefyllfaoedd ac awyrgylch. [...] Gafaeloedd y llyfr yma ynof o'r frawddeg gyntaf ac rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddarllen mwy gan yr awdur.
- Tri ar y Tro, Cylchgrawn Golwg
Mae gan Aled Evans ddawn ddigamsyniol i ddisgrifio cymeriad ac i lunio deialog gynnil ac awgrymog mewn amryw dafodieithoedd. Yn ddiau, mae hon yn nofel fyrlymus a hwyliog sy'n haeddu mwy nag un darlleniad.
- Geraint Phillips, Gwales