Reviews
Nofel gignoeth sy'n mynd dan groen ac yn treiddio i'r byw. Mae ynddi ystod emosiynol anarferol o eang sy'n parhau i swyno ymhell ar ôl y dudalen olaf. Eithriadol.
- Lleuwen Steffan
Os nad ydych wedi cael y cyfle eto…cynnwch y tân, diffoddwch y ffôn ac ymgollwch i fyd Mori Tensiwn ar y dipyn megis McEwan, chwalu ystrydeb fel Honeyman a llais y merched anweledig o'ch cwmpas yn hawlio eu lle ar eich soffa. Gwych iawn iawn @gwalltog
- CerilRhysDillon
[Mae'r prif gymeriad'] â meddwl tywyll iawn ar adegau, a'r nofel ei hun yn mentro ac yn archwilio themâu a phynciau nas trafodwyd o fewn ein llenyddiaeth yng Nghymru eisoes, neu'n ddigonol.
- Mirain Iwerydd, erthygl Golwg
Mae'n RHAID ichi ddarllen y nofel yma. Gwefreiddiol. Mi roeddwn innau'n gegrwth.
- Daloni Owen, Instagram
Wnes i larpio'r nofel mewn deuddydd, a'i chael hi yn page turner go-iawn.
- Barri Thomas, Golwg
Mae hi'n nofel unigryw, cwbl gyfoes ei themâu, ac fe gydiodd yn fy nychymyg o'r dudalen gyntaf... Mae'r pwyslais ar berspectif merched, gyda dwy ferch yn ganolbwynt i'r cyfan, yn chwa o awyr iach: braf yw darllen nofel sy'n pasio'r prawf Bechdel, yn gosod goddrychedd benywaidd, yn ei holl gymhlethdod hardd a hyll, ar ganol y llwyfan.
- Angharad Penrhyn Jones, O'r Pedwar Gwynt
Mae'n destament i'r ffaith bod yma awdur sy'n
gwybod sut i drafod pethau anodd, chwerw, a
gwneud hynny mewn ffordd sy'n codi croen gŵydd
ar ei chynulleidfa... Felly, os ydych chi'n chwilio am stori droellog, wyrdroëdig, yna rydych chi wedi dod o hyd i'r union nofel i fodloni'r anghenion hynny.
- Sioned Erin Hughes, Y Cymro
Gwych iawn
- Cynan Llwyd, Y Silff Lyfrau - Radio Cymru
Yn afaelgar o'r cychwyn cyntaf... [rwy] wedi gwirioni gyda'r nofel.
- Heddyr Gregory, Y Silff Lyfrau, Radio Cymru