Reviews
Dyma gyfrol sy'n arswydus o brydferth. Mae yma gymariaethau sy'n siglo rhywun - cyfres o ddamhegion modern. Dyna'i chi'r teimlad o fod fel dilledyn mewn peiriant golchi. Hunllef y pryfaid coch wedyn, a allai'n hawdd fod yn un o storïau Stephen King. Y gymhariaeth â chranc sy'n cael ail-ymuno â'r môr ac sy'n rhoi teitl i'r gyfrol. A'i sylwadau treiddgar am rai o'i chyd-gleifion yn Uned Seiciatryddol Hergest, sef ei 'charchar a'i noddfa'. Mae'n anodd penderfynu weithiau a ddylwn wylo neu chwerthin. Ac yna, ymyrraeth dyngedfennol ffawd ar Bont y Borth.
- Lyn Ebenezer
"Dyma gyfrol ddewr a gwerthfawr a fydd yn helpu i erydu ymhellach y stigma sy'n parhau i lynu wrth salwch meddwl hyd yn oed heddiw."
- Menna Baines, Cylchgrawn Barn
"Mae'r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae'n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y penodau yn gryno ac yn llifo. Ac eto mae'n brofiad affwysol o anodd hefyd... Mae hanesion Malan Wilkinson mor amrwd, maen nhw'n dod â dŵr i'r llygaid – fel wynebu gwynt oer, oer yn Dinas Dinlle. Dylem fod yn ddiolchgar iddi am rannu ei phrofiadau mewn modd mor hael a gonest a doeth, gan ddyfnhau ein dealltwriaeth o gyflyrau seicolegol cymhleth, ac am wneud hynny mewn Cymraeg lliwgar sy'n byrlymu â throsiadau annisgwyl... gwych oedd gweld ei chyfrol yn cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2019."
- Angharad Penrhyn Jones, O'r Pedwar Gwynt
"Llyfr pwysig, amserol, diddorol...ag yn rollicin gwd rid."
- Sarah Louise Wheeler, Trydar
Dyma'r un o'r llyfrau mwyaf gonest a chignoeth i mi ei ddarllen erioed yn Gymraeg. Mae'n adrodd y hanes heb arlliw o sentiment ond mewn ffordd hynod afaelgar sydd yn llwyddo i dynnu tannau'r galon.... Ddyddiau wedi darllen y llyfr, fedrwn yn fy myw a chanolbwyntio ar ddim byd. Roeddwn am yrru ati, am roi cwtsh iddi ac am ddweud wrthi ei bod yn llenor o'r rath flaenaf.
- Menna Elfyn, Western Mail