Reviews
"Mam methu rhoi hunangofiant Zonia Bowen i lawr! 'Y llyfr Cymraeg gorau i mi ei ddarllen erioed!'"
- Bethan Gwanas, @BethanGwanas
"Hedfan trwy hunangofiant nain. Cymaint o hanesion nad oeddwn yn eu gwybod!"
- Marged Rhys, @Marged_Mela
"Chwa o awyr iach, yn wir, yw cael rhywun o'r tu allan - un sy'n dal i ystyried ei hun yn Saesnes - i ysgwyd ein cred a'n credoau cynhenid weithiau, a dangos i ni nad oes yn rhaid i bethau fod fel hyn."
- Meg Elis, cylchgrawn Barn
"Mae'r llyfr yn ddarllenadwy, ysgrifenna'r awdur yn onest, yn ddiflewyn-ar-dafod a heb wastraff geiriau... Ble bynnag y bu hi'n byw yng Nghymru, boed ym Mangor, Sir Ddinbych, Caerdydd neu Sir Feirionnydd, y Gymraeg sydd wedi llywio bywyd Zonia Bowen. Gresyn na fyddai pawb sydd yn symud i Gymru yn mynd ati i gefnogi a defnyddio'r iaith fel y gwnaeth hi. Yn wir, gresyn nad yw nifer o Gymry sydd wedi eu geni a'u magu yng Nghymru yn gwerthfawrogi'n hiaith yr un modd. Diolch iddi hi am ei chyfraniad clodwiw i'n hiaith a'n cenedl. Hunangofiant cofiadwy iawn."
- Gill Griffiths, Gwales.com
"Wele gyfrol fach hynod ddifyr a darllenadwy o atgofion gan wraig rinweddol a chafodd gyfle, mae'n amlwg, i fyw bywyd llawer iawn llawnach a chyfoethocach na'r cyffredin... Llwyddodd i lunio cyfrol ryfeddol o ddarllenadwy sydd yn fwrlwm o fanylion blasus ac yn aml yn arwyddocaol i hanes Cymru'r ugeinfed ganrif. Can ddiolch iddi am ei llafur a'i hymroddiad."
- Dr J. Graham Jones, Y Cymro
"A hithau'n berson hollol ddiymhongar, does 'na ddim modd dychmygu Zonia Bowen yn gofyn am unrhyw glod am ei gwaith a'i haberth ers iddi ddod i Gymru yn yn ferch ifanc 17 mlwydd oed ond fe fydd ei hunangofiant yn gyfrol bwysig yn cynnwys gwersi I bob Cymro a Chymraes dros flynyddoedd y dyfodol."
- Androw Bennett, Y Cymro