Reviews
"Mae'r nofel hon yn gelfydd ac yn argyhoeddi...mae'r cyfanwaith yn fywiog ac apelgar, ac yn codi cwestiynau digon dwys ynghylch dylanwad llefydd arbennig ar rigolau bywyd."
- Jane Aaron
"Yr hyn sy'n atyniadol yn y nofel yw ei ffresni, ffresni ei chymeriadaeth, ffresni ei harddull farddonol, ffresni ei digwyddiad a'i hadroddiadau. Nodaf hefyd fy mod yn berffaith sicr fod Eisteddfod Abertawe a'r Cylch, wrth wobrwyo Matigari, yn gwobrwyo awdur a rydd gryn ddiddanwch llenyddol i bawb a gâr rialtwch a difrifwch bywyd rhwng dau glawr."
- Derec Llwyd Morgan
"Dyma wir artist y gystadleuaeth...prin bod tudalen o'r gwaith heb enghraifft o ddawn dweud anghyffredin, gyda'r awdur ar ei orau wrth ddangos y mân ganfyddiadau sydd yn dadlennu newidiadau sylfaenol mewn perthynas pobl â'i gilydd."
- Grahame Davies
"Crefft Fflur Dafydd yw gwau [y cymeriadau] hefyd i gyfangorff y stori, gan fod mynd a dod a chyswllt â'r tir mawr hefyd yn dod yn rhan o'r tensiwn, o'r trai a'r llanw, a'r cymeriadau o'r "tu allan" ymddangosiadol hefyd yn dod â'u dylanwadau."
- Meg Ellis, Golwg
Mae gallu Fflur Dafydd i ddal awyrgylch lle yn amlwg yn y nofel fer hon, yn ogystal â'i gallu i greu cymeriadau amrywiol, diddorol, byw.
- Lico Llyfre Lot