Noson lansio Syllu ar walia' - Ffion Dafis yn Nolgellau
Dewch draw i noson lansio Syllu ar Walia' gan Ffion Dafis.
Dyma gyfrol hunangofiannol ffraeth sy'n cymryd golwg ar fywyd trwy lygaid y Gymraes, Ffion Dafis, sydd ddim yn ofni dweud ei dweud yn blwmp ac yn blaen.
Byddwn yn lansio'r gyfrol yn Gwin Dylanwad Wine yn Nolgellau ar nos Iau y 5ed o Hydref am 7.30 o'r gloch.
Bydd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda'r awdures Bethan Gwanas am ei chyfrol a bydd cerddoriaeth fyw gan Osian Morris.
Digwyddiad am ddim a chroeso cynnes i bawb.