Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013.
Dydd Llun, 30 Mawrth, 4.35 a.m.
Cysgai'r rhan fwyaf o boblogaeth y dref a'r ardal gyfagos gwsg diofal yn eu gwlâu - oddeutu chwe mil ohonynt, yn ddynion, merched a phlant.
Yng nghanol Cors Ddyga roedd gweithwyr y shifft nos ar y safle ffracio yn ddiwyd wrth eu gwaith.
Yn ddirybudd, daeth ochenaid ddofn o grombil y ddaear.
Mae craciau'n ymledu o dan y ddaear ar ôl y daeargryn ar Ynys Môn. Mae craciau ar hyd yr wyneb hefyd.
Daw gofid newydd i ran Idris, ffermwr sy'n byw i sicrhau bod ei wraig yn cael y morffin sydd ei angen arni. Wrth iddi lithro i mewn ac allan o'r byd hwn, a fydd hi'n llwyddo i rannu ei chyfrinach olaf ag ef?
Mae craciau'n ymddangos ym myd Eileen wrth iddi gymryd awenau archfarchnad Alda. Ond a fydd hi'n cael siâp ar Siôn, y llipryn diog, a Kelly, merch ifanc y mae mwy iddi na'i chartre ym mloc fflatiau Maes y Dref?
A beth am Haydn? Manteisio ar y craciau y mae ef ac yntau ar fin dechrau ar ei dymor fel maer.
Nofel gyffrous, llawn digwyddiadau dramatig sy'n codi cwestiynau am effaith rhai prosiectau ynni ar yr amgylchfyd.