Cyflwyniad cyflawn i gerddoriaeth Cymru, newydd a hen, ar gyfer y dosbarth yn bennaf, yn cynnwys enghreifftiau o'n cerddoriaeth fwyaf arbennig a nodweddiadol. Cyfnodau Allweddol 1 a 2.
Bwriad y pecyn hwn yw cynorthwyo athrawon i gyflwyno amrywiaeth o enghreifftiau o gerddoriaeth o Gymru i blant ysgol gynradd. Ceir deunydd yma sy'n addas ar gyfer yr ystod oed 5 – 11, er bydd rhai unedau yn fwy addas ar gyfer oed a gallu penodol. Mae yma syniadau am weithgareddau ar gyfer ystod o amgylchiadau, gan gynnwys gwasanaeth ysgol, gwaith dosbarth, gwaith grwp a gwaith unigol.
Cerddtastic a'r Cwricwlwm Cymreig: Gellir datblygu gwerthfawrogiad y plant o gelfyddydau creadigol a mynegiadol Cymru drwy weithgareddau'r pecyn hwn – mae hyn yn agwedd o'r Cwricwlwm Cymreig. Mae'r ystod cerddorol a ddewiswyd yn cynnig cyfle i'r plant werthfawrogi agweddau unigrwy o gerddoriaeth Cymru. Byddant yn datblygu ac yn ehangu ar eu gwybodaeth am rôl cerddoriaeth yng nghredoau, traddodiadau ac arferion y Cymry ddoe a heddiw.
Y Fersiwn Saesneg: Mae hwn yn becyn dwyieithog, ond nid cyfieithiadau union a geir gan fod cefndir diwylliannol gwahanol gan siaradwyr y ddwy iaith. Mae'r deunydd lleisiol yn Gymraeg, wrth gwrs, ond weithiau bydd lled gyfieithiad Saesneg o eiriau caneuon, a dylid pwysleisio mai bras ystyr y gwreiddiol a geir yma. Hefyd, fel arfer wrth gyfieithu mae mydr y llinellau yn cael ei golli...